Home

Dewiswch

Gorffennaf 2008
Mehefin 2008
Gorffennaf 2007
Mehefin 2007
Mai 2007
CHWEFROR 2007
Newyddion Tachwedd 2006
Medi 2006
Gorffennaf 2006
Mehefin 2006
Mai 2006
Chwefror 2006
Papurau Bro Nadolig 2005
Hydref 2005
Newyddion Medi 2005
Newyddion Gorffennaf 2005
Newyddion Mehefin 2005
Newyddion Ebrill 2005
DWYNWEN, DEWI A’R EISTEDDFODAU
Newyddion Rhagfyr 2004
Newyddion Hydref 2004
Newyddion Medi 2004
Newyddion Gorffennaf 2004
Papurau Bro Mehefin 2004
Papurau Bro Tachwedd 2003
Papurau Bro Hydref 2003
Papurau Bro Medi 2003
Papurau Bro Mai 2003
Papurau Bro Ebrill 2003
DATBLYGIAD MENTER IAITH
Gorffennaf 2008

Prifweithredwr Newydd
Mae Kevin Davies newydd ddechrau ar ei swydd fel Prifweithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Mae Kevin, sy’n dod o gefndir darlledu yn edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her sydd yn ei wynebu :
“ Mae hi’n mynd i fod yn newid byd enfawr, ond yn newid rwy’n edrych ymlaen ato. ‘Rwy hefyd yn edrych ymlaen at yr her o gynnal holl weithgareddau’r Fenter fel y maen nhw ar hyn o bryd, ac mewn amser datblygu’r Fenter fel ei bod hi’n parhau i gyflawni’r nod o fod yn gefn ac yn sbardun i holl Gymry Cymraeg y Sir.

Newid Staff
Dymunwn yn dda i nifer o aelodau staff y Fenter sydd wedi symund i swyddi newydd. Mae Helen Davies, Swddog Gofal Plant, wedi mynd i weithio i Brifysgol Morgannwg. Croesawn Sarah Thomas i’r swydd Gofal Plant. Mae Geraint Bowen, Pennaeth Cyllid, wedi cael swydd yn Fro. Mae Leonnie Horton, Swyddog Ieuenctid wedi cael swydd yn y Fro hefyd. Mae Helena Jones, Swyddog Busnes, wedi cael swydd yn Nhrefforest. Diolch i’r pedwar am eu cyfraniad sylweddol i’r Fenter a dymuniadau gorau yn eich swyddi newydd.

Gwobr Am Wirfoddoli
Cafodd Cymdeithas Gymraeg Y Maerdy ei chydnabod am ei gwaith amhrisiadwy yn hybu'r iaith Gymraeg yn Noson Wobrwyo Gwirfoddolwyr 2008 Interlink. Enillon nhw'r categori Hybu'r Gymraeg, a noddwyd gan Fwrdd yr Iaith.
Dechreuodd y Gymdeithas dros 4 blynedd yn ôl gyda chymorth Menter Iaith a Chymunedau'n Gyntaf Y Maerdy, ac mae wedi tyfu a datblygu i wneud cyfraniad sylweddol i'r Gymraeg yn ardaloedd Y Maerdy a Glynrhedynnog, Rhondda.
Aeth Marion Griffiths, cadeirydd y grŵp, ymlaen i dderbyn y wobr a gyflwynwyd gan Jane Davidson, Aelod Cynulliad. Mae'r grŵp yn cwrdd yn Nhŷ Teifi ar foreau Llun 11.00-12.00.

Cynlluniau Chwarae
Cynhelir Cynlluniau Chwarae y Fenter mewn chwe lleoliad o ddydd Llun i ddydd Gwener 21/7/2008 i 29/8/2008 rhwng 10 a 12 y bore. Y lleoliadau yw Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Canolfan Ieuenctid Bronllwyn, Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gynradd Gymraeg Llynyforwyn, YMCA Pontypridd, Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae mynediad am ddim.

Cwlwm Busnes
Noson o sgwrsio a blasu caws Cymraeg yn y Cwtch yn Hoffi Coffi? Trefforest, Pontypridd dyna fu Cwlwm Busnes yn ei gwneud ar 3 Mehefin. Lleoliad hwylus i'r orsaf drên a coffi blasus iawn. Sgwrs ddifyr gan Royston O'Reilly perchennog Hoffi Coffi? - pam fod hi'n bleser ac yn synhwyrol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes. Hefyd roedd Caroline Mortimer yn esbonio ychydig am ei gwaith fel Swyddog Iaith yn RhCT a sut mae modd cael gohebiaeth y Cyngor yn Gymraeg. Dosbarthwyd llyfrynnau bach gyda rhifau cyswllt llinellau Cymraeg - mynnwch gopi nawr!

13/08/2008

Taflen o'r Gorffenol

Menter Taf Elái

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!